SL(6)586 - Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) (Rhif 2) 2025
Cefndir a diben
Sefydlwyd Cynllun Masnachu Allyriadau y DU (“ETS”) gan Orchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020 fel cynllun masnachu allyriadau nwyon tŷ gwydr ar gyfer y DU gyfan, i annog y sectorau pŵer, diwydiant ac awyrennau i leihau eu hallyriadau mewn ffordd gost-effeithiol.
Fe’i lluniwyd ar y cyd gan y pedair llywodraeth yn y Deyrnas Unedig sy’n gweithredu’r ETS ar y cyd fel Awdurdod ETS y DU (“yr Awdurdod”), sy’n cymryd lle cyfranogiad y DU yn ETS yr UE. Mae'n cyfrannu at dargedau lleihau allyriadau a nod sero net y DU, yn ogystal â'r llwybr i leihau allyriadau yng Nghymru.
Mae’r ETS yn cymell ymdrechion i ddatgarboneiddio drwy ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr brynu lwfansau, y mae’n rhaid iddynt eu monitro, adrodd arnynt a’u hildio. Mae’r ETS yn rhedeg am 10 mlynedd ac wedi’i rannu ar draws dau gyfnod dyrannu, sef 2021-2025 a 2026-2030. Yn ystod y cyfnodau hynny, mae rhai gweithredwyr yn gymwys i gael dyraniad lwfansau am ddim ar gyfer allyriadau nwyon tŷ gwydr (“FA”).
Ym mis Rhagfyr 2023, agorodd yr Awdurdod ymgynghoriad 12 wythnos o'r enw “UK Emissions Trading Scheme: free allocation review”, a oedd yn edrych ar opsiynau i dargedu'n well y rhai sydd fwyaf mewn perygl o ddadleoli carbon ac i sicrhau bod y dyraniad lwfansau am ddim yn cael ei ddosbarthu'n deg. Mae’r sectorau y bernir bod perygl iddynt ddadleoli carbon ac effeithio ar lefelau’r dyraniadau am ddim wedi’u nodi yn y Rhestr Dadleoli Carbon (“CLL”). Mae newidiadau i'r CLL a'r mecanweithiau cysylltiedig yn dilyn yr ymgynghoriad wedi'u gohirio. Felly, prif swyddogaeth y Gorchymyn hwn yw symud dechrau’r ail gyfnod dyrannu o 2026 i 2027, gan wneud 2026 yn flwyddyn ar ei phen ei hun; a darparu ar gyfer cyfrifo FA ar gyfer 2026 fel blwyddyn ar ei phen ei hun.
Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn gwneud newidiadau amrywiol o ran trosglwyddo lwfansau rhwng cyfrifon yngNghofrestrfa ETS y DU, datgelu gwybodaeth o dan ddeddfwriaeth ETS a’r meini prawf cymhwyso ar gyfer gweithfeydd â lefelau isel o allyriadau.
Gweithdrefn
Negyddol.
Gwnaed y Gorchymyn hwn yn y Cyfrin Gyngor gan Ei Fawrhydi cyn iddo gael ei osod gerbron Senedd Cymru, Senedd y Deyrnas Unedig, Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon.
Gall y Senedd annilysu’r Gorchymyn o fewn 40 niwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu, neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i’r dyddiad y’i gosodwyd gerbron y Senedd. Gall y tair deddfwrfa arall hefyd annilysu'r Gorchymyn, yn unol â'r rheolau ar gyfer annilysu sy'n gymwys i bob un o'r deddfwrfeydd hynny.
Materion technegol: craffu
Nodir un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
1. Rheol Sefydlog 21.2(ix) – nad yw wedi’i wneud neu i’w wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Nodwn fod paragraff 2.2 o'r Memorandwm Esboniadol yn nodi’r canlynol:
Gan mai Senedd y DU fydd yn craffu ar y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor, ni fernir ei bod yn rhesymol ymarferol gwneud na gosod yr offeryn hwn yn ddwyieithog.
Rhinweddau: craffu
Ni nodwyd pwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn cysylltiad â’r offeryn hwn.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad
26 Chwefror 2025